Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

 

Tystiolaeth ysgrifenedig yn cefnogi’r bil gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

 

1.0 Cefndir

1.1  Y Comisiwn Brenhinol, a sefydlwyd drwy Warant Frenhinol ym 1908, yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am arolygu a chofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru. Un o’n prif weithgareddau yw cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, ac yn y cyswllt rydym yn gyfrifol am fonitro datblygiad y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (CAHion) rhanbarthol sy’n cael eu cynnal gan bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru (YAC).

 

1.2  Mae’r ddau fath hyn o gofnod yn wahanol ond yn ategu ei gilydd. Yn eu hanfod, mae’r CAHion yn ffurfio catalog o wybodaeth am y gorffennol, a cheir ynddynt ddata ar lefel uchel. Mae’r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn ychwanegu dyfnder at y wybodaeth hon, ar ffurf llawer o wahanol fathau o ddata, gan gynnwys lluniadau deongliadol, cynlluniau, trychiadau, adroddiadau cloddio, nodiadau maes, a 150 o flynyddoedd o ffotograffau.

 

1.3  Oherwydd ein gwaith mewn perthynas â chynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a monitro datblygiad y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol, bydd ein tystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn canolbwyntio’n bennaf ar Ran 4 o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy’n ymdrin â’r gofyniad i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru greu a chynnal CAHion.

 

2.0       Gwerth y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

2.1       Rydym yn croesawu’n fawr iawn gymalau 33 i 36 o’r Bil, sy’n gofyn i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ‘lunio a chyhoeddi cofnod amgylchedd hanesyddol sy’n ymwneud â’i ardal’. Mae gennym sawl rheswm dros gefnogi’r mesur hwn. Mae’r CAHion yn ffynhonnell gwybodaeth werthfawr a hygyrch am yr amgylchedd hanesyddol a all gael eu defnyddio i:

 

                                                       i.   gefnogi ymdrechion cadwraeth a stiwardiaeth gyfrifol o’r amgylchedd hanesyddol

                                                     ii.   rhoi gwybodaeth i berchnogion a datblygwyr am unrhyw asedau treftadaeth a all effeithio ar sut y gallant ddefnyddio eu tir a’u heiddo, gan roi’r eglurder sydd ei angen arnynt i baratoi ceisiadau cynllunio llwyddiannus

                                                   iii.   cyfrannu at wneud penderfyniadau o fewn y drefn cynllunio a rheoli datblygiadau, gan gynnwys trafodaethau cyn gwneud cais a cheisiadau am gydsyniad

                                                    iv.   cefnogi gwelliannau amgylcheddol, twristiaeth ddiwylliannol a mentrau addysgol

                                                      v.   galluogi pobl i ddarganfod, mwynhau a deall treftadaeth leol.

 

2.2       Yr angen am safonau uchel

Er mwyn cyflawni’r holl amcanion hyn, mae angen i CAHion fod yn hygyrch, cywir a chyfoes: am y rheswm hwn croesawn yn fawr y pwyslais a roddir yn y Bil a’r Canllawiau Statudol ar yr angen i ddarparwyr gwasanaeth CAH gael eu harchwilio gan y Comisiwn Brenhinol bob pum mlynedd. Croesawn hefyd y sylw y bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’n rheolaidd y modd y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau CAH ac yn gweithio gyda’r rheiny sy’n methu â chydymffurfio er mwyn cytuno ar gynllun i gywiro’r diffygion.

 

3.0       Y CAHion  presennol

3.1       Mae CAHion, wrth gwrs, yn bodoli eisoes, a chawsant eu rheoli a’u datblygu gan bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru dros nifer o ddegawdau, felly nid ydym yn ystyried bod y Bil yn gosod baich arbennig o drwm ar awdurdodau cynllunio lleol. Mae’r buddsoddiad cychwynnol wedi’i wneud, ond yn fuan iawn y gallai’r CAHion fethu â chyflawni eu rôl briodol yn y system gynllunio pe baent yn colli eu cyfoesedd. Felly mae angen parhau i fuddsoddi mewn cynnal a gwella’r CAHion. Mae’r Canllawiau Statudol yn nodi’n glir y dylid cyflogi staff curadurol cymwysedig a chymwys i ymgymryd â’r dasg hon. Gan mai’r awdurdodau cynllunio lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau mynediad i CAH, bydd yn bwysig sicrhau bod yr awdurdodau hyn yn cydnabod y bydd angen iddynt wneud cyfraniad rhesymol a chymesur at y costau hanfodol hyn.

 

4.0       Darparwyr gwasanaeth eraill

4.1       Sut bynnag, nodwn nad yw’r Bil yn datgan y dylid defnyddio’r CAHion presennol ac nad yw’r Canllawiau Statudol cysylltiedig ar Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru yn cymryd yn ganiataol mai hyn fydd yn digwydd. Yn lle hynny, mae’r Canllawiau Statudol yn disgrifio’r hyn a ddylai fod mewn CAH, sut y dylai gael ei reoli a pha safonau y mae’n rhaid eu bodloni, ac yn ddamcaniaethol gallai rhai awdurdodau lleol benderfynu mynd y tu allan i’r ddarpariaeth CAH bresennol a sefydlu a chynnal eu CAH eu hunain, neu gontractio’r gwaith i ddarparwyr gwasanaeth gwahanol heblaw am Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.

 

4.2       Felly mae perygl y bydd llawer gwahanol ymagwedd at CAHion ac rydym yn pryderu y gallai hyn arwain at ddarnio’r gwasanaeth; er gwaethaf y Canllawiau Statudol ar safonau, gallai hyn arwain at ddiffyg cysondeb cenedlaethol a allai ddrysu defnyddwyr a bod yn rhwystr i ddefnydd ehangach o’r CAHion. Dylid osgoi hyn a rhoi’r pwyslais ar rôl allweddol Porth Cymru Hanesyddol sy’n darparu man mynediad clir i nifer o gofnodion a luniwyd at wahanol ddibenion ac sy’n ategu ei gilydd.

 

5.0       Porth Cymru Hanesyddol

5.1       Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi gweithio’n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddod â’r data am yr amgylchedd hanesyddol a ddelir gan wahanol gyrff yng Nghymru o dan yr un fantell: porth ar-lein Cymru Hanesyddol sy’n dwyn ynghyd ddata y CAHion a gwybodaeth sydd yn nwylo cyrff megis Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru y Comisiwn Brenhinol, gan greu’r hyn y gellid ei alw’n ‘CAH cenedlaethol estynedig’. Mae’r CAH estynedig hwn o bwys aruthrol i’r sawl sy’n chwilio am wybodaeth fanylach nag a geir o fewn y CAHion presennol, ac mae’r symud tuag at safonau cyffredin a mwy o integreiddio yn rhywbeth y byddem yn ei gymeradwyo yn hytrach na lluosogi gwasanaethau.

 

5.2       Mae ein profiad ni o weithio gyda’r CAHion presennol a ddelir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru wedi dangos eu bod yn cael eu rheoli’n dda. Ymgymerasom ag archwiliadau yn 2005 a 2010 ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal archwiliad pum mlynedd arall er mwyn llywio eu rhaglenni gwaith at y dyfodol. Hoffem yn arbennig gymeradwyo eu creadigrwydd wrth ddarparu mynediad ehangach i’r cyhoedd a galluogi’r cyhoedd i gyrchu data’r CAHion, a llwytho eu harsylwadau eu hunain i fyny drwy gyfrwng llechi cyfrifiadurol a ffonau symudol.

 

6.0       Adran 17 o’r Bil

6.1       Rydym yn falch o weld bod ymdrech yn cael ei gwneud i gryfhau’r gyfraith mewn perthynas â’r ‘amddiffyniad o anwybodaeth’ yn ymwneud â Datgelu Metel. Mae caniatáu i ‘anwybodaeth’ gael ei defnyddio’n amddiffyniad yn golygu y bydd hi bron yn amhosibl erlyn troseddwyr gan y bydd y baich ar yr erlyniad i brofi bod y datgelwr metel yn llwyr ymwybodol o unrhyw ddynodiadau diogelu sydd mewn grym.

 

6.2       Yn lle hynny, yn yr un modd ag y dylai datgelwr metel geisio caniatâd y perchennog tir cyn dechrau chwilio, mae’n iawn y dylai’r baich fod ar y datgelwr metel i wirio a yw safle wedi’i ddiogelu ai peidio. Oherwydd yr holl wybodaeth sydd ar gael yn hwylus ar-lein drwy borth Cymru Hanesyddol, mae’n hawdd iawn gwirio a yw tir wedi’i ddynodi ai peidio, ac mae’r ‘amddiffyniad o anwybodaeth’ yn anos ei gyfiawnhau yn awr nag ar unrhyw adeg yn y gorffennol.

 

7.0       Adran 37 o’r Bil

7.1       Nodwn fod Adran 37 o’r Bil yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn sefydlu Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru i roi ‘cyngor ... ar faterion yn ymwneud â llunio, datblygu a gweithredu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru’. Bydd gofyn i’r Panel gyhoeddi rhaglen waith sy’n nodi’r ‘materion y mae’n bwriadu rhoi cyngor i Weinidogion Cymru arnynt yn ystod cyfnod o dair blynedd’.

 

7.2       Hoffem geisio sicrwydd y bydd panel cynghori o’r fath yn manteisio ar amrywiaeth eang o gyngor wrth benderfynu ar ei agenda, ac yn ceisio tystiolaeth yn eu trafodaethau gan yr amrywiaeth eang o gyrff treftadaeth sydd i’w cael yng Nghymru. Byddem yn fwy na pharod i gynnig peth cymorth i Cadw gyda gwaith y Panel, er mwyn sicrhau bod ei raglen waith yn gynrychiadol o’r swyddogaethau y byddwn ni ac eraill yn eu cyflawni yn ogystal â’r rheiny a arweinir gan Cadw.

 

8.0       Darpariaeth arforol

8.1       Yn olaf, fel y corff sy’n gyfrifol am wneud cofnod o dreftadaeth arforol ac alltraeth, rydym yn pryderu bod y Bil presennol a’r canllawiau ategol yn ymwneud yn bennaf â threftadaeth ar y tir. Ar adeg pan fo ein dyfroedd tiriogaethol o dan fwy o bwysau datblygu nag erioed, mae angen casglu gwybodaeth gynhwysfawr a chyfoes ar frys am dreftadaeth arforol gyfoethog Cymru yn sylfaen ar gyfer penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd mesurau i fynd i’r afael â’r angen hwn yn cael eu hymgorffori yn y Bil hwn neu mewn deddfwriaeth ac arweiniad yn y dyfodol sy’n rhoi sylw i dreftadaeth arforol a datblygu alltraeth.